EleanorHUGHES17eg Hydref 2025.
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Dolwar a gynt o Mount Cottage, Morfa Nefyn yn 95 mlwydd oed.
Priod ffyddlon y diweddar Hugh Hughes. Mam gariadus Hilda, Karen a'r diweddar Brenda. Mam yng nghyfraith hoffus Sulwyn. Nain garedig Dylan, Gwyn, y diweddar Emyr, Gareth, Aled, Carwyn, Enlli, Nikki ac Elin. Hen-nain hwyliog i Dyfed, Sion, Mali, Deio, Nel a Magi a ffrind i lawer.
Gwasanaeth cyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Morfa Nefyn fore Sadwrn, 1af Tachwedd am 11.30 o'r gloch.
Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion os dymunir tuag at Gronfa Cartref Dolwar trwy law'r ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn 01758 750238.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Eleanor